Mae ymchwiliad ar droed i mewn i gyswllt â'r heddlu cyn marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd

Published: 12 Jan 2021
News

Datganiad gan Gyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans:

“Rydym yn cynnal ymchwiliad annibynnol i mewn i gyswllt yr heddlu â Mohamud Hassan cyn ei farwolaeth yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn (9 Ionawr).

“Cawsom wybod yn oriau mân y bore ar ddydd Sul gan Heddlu De Cymru bod Mr Hassan wedi cael ei ddatgan yn farw mewn tŷ ar Newport Road ar nos Sadwrn. Fe'n hysbyswyd hefyd ei fod wedi cael ei arestio gan yr heddlu yn yr un cyfeiriad nos Wener a'i fod wedi cael ei ryddhau o ystafell ddalfa Bae Caerdydd yn ddigyhuddiad tua 8.30am y diwrnod canlynol. Ar y cam cynnar hwnnw, gwnaethom gynghori'r heddlu er mwyn sicrhau bod yr holl fideo a wisgwyd ar gorff gan swyddogion yr heddlu o'r arestiad a'r daith i'r orsaf, ynghyd â lluniau CCTV o'r ddalfa yn ar gael ar gyfer yr ymchwiliad.

“Anfonaf fy nghydymdeimlad at deulu a ffrindiau Mr Hassan, ac at bawb yr effeithiwyd arnynt gan ei farwolaeth drist. Rydym yn ymwybodol o bryderon sy'n cael eu mynegi a chwestiynau sy'n cael eu gofyn am y defnydd o rym gan swyddogion heddlu. Byddwn yn edrych yn ofalus ar lefel y grym a ddefnyddiwyd yn ystod y rhyngweithio a byddwn yn annog pobl i ddangos amynedd tra bod ein hymholiadau, a fydd yn cymryd peth amser, yn cael eu gwneud. Bydd ein hymchwiliad yn ffocysu ar y rhyngweithio a gafodd yr heddlu â Mr Hassan yn ystod ei arestio, y daith mewn fan heddlu i’r carchar, a’r cyfnod o amser a dreuliodd yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd gan gynnwys a wnaethpwyd asesiadau perthnasol cyn ei ryddhau.

“Byddwn yn edrych fel mater o frys ar y lluniau CCTV perthnasol helaeth a’r fideo a wisgir ar y corff. Ceir adroddiadau gan y swyddogion dan sylw, a byddwn yn ceisio siarad â nifer o dystion i bresenoldeb yr heddlu nos Wener ac i symudiadau Mr Hassan ar ddydd Sadwrn ar ôl gadael y ddalfa.

“Hoffwn roi sicrwydd i bobl y byddwn yn cynnal ymchwiliad trylwyr ac annibynnol i’r cyswllt gafodd yr heddlu â Mr Hassan. Byddwn yn diweddaru ei deulu, Heddlu De Cymru, a'r Crwner drwy gydol ein hymchwiliad.

“Disgwylir am adroddiad interim o archwiliad post mortem. Yr arwyddion rhagarweiniol yw nad oes unrhyw anaf trawma corfforol i esbonio achos y farwolaeth, ac mae angen profion tocsicoleg.”

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol
  • Defnydd o rym a phlismona arfog