Cyn-swyddog Met yn cael ei chyhuddo o droseddau llygredd a thwyll

Published: 01 May 2026
News

Mae cyn-swyddog o Heddlu'r Met i ymddangos yn y llys yr wythnos nesaf, wedi'i chyhuddo o nifer o droseddau sy'n ymwneud â thwyll a llygredd, yn dilyn ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Mae Sunna Harrison-Aziz i fod i ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan ar ddydd Mawrth 5 Mai i wynebu deg cyhuddiad:

  • pum cyhuddiad o arfer pwerau a breintiau'r heddlu'n llygredig neu'n amhriodol
  • pedwar cyhuddiad o dan y Ddeddf Twyll (2006)
  • un cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder

Cyhuddwyd y cyn-gwnstabl heddlu yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Ganolfan Rheoli Gwrth-lygredd a Cham-driniaeth Heddlu'r Met, o dan ein cyfarwyddyd a'n rheolaeth.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â honiadau o gynnal gwiriadau ar systemau cyfrifiadurol yr heddlu ar ran trydydd partïon ac am honiadau o dderbyn taliadau yn dwyllodrus am eitemau drud a brynwyd ar-lein.

Dechreuon ni ein hymchwiliad dan gyfarwyddyd ym mis Hydref 2022. Yn dilyn diwedd yr ymchwiliad ym mis Tachwedd 2024, atgyfeiriwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiadau.

Tags
  • Metropolitan Police Service
  • Llygredd a cham-drin pŵer