Adolygiadau ac apeliadau
Os ydych chi'n anhapus gyda’r modd y deliwyd â’ch cwyn, neu gyda’r canlyniad terfynol, gallwch wneud cais am adolygiad neu apêl.
Mae p’un a yw eich cais yn cael ei drin fel adolygiad neu apêl yn ddibynnol ar y dyddiad pan wnaethoch gyflwyno’ch cwyn. Mae hyn oherwydd o 1 Chwefror 2020, daeth cyfreithiau newydd i rym yn disodli’r hawl i apêl blaenorol gyda hawl newydd i adolygiad. Os gwnaethpwyd eich cwyn ar 1 Chwefror 2020 neu wedi hynny, mae gennych chi hawl i adolygiad. Os y’i gwnaethpwyd cyn 1 Chwefror 2020, mae gennych chi hawl i apêl.
Mae’n bwysig deall na all y corff adolygiad neu apêl perthnasol ail-ymchwilio i’ch cwyn. Dim ond asesu os oedd y driniaeth neu ganlyniad terfynol eich cwyn yn rhesymol a chymesur.
I ble ddylwn i anfon fy nghais am adolygiad neu apêl?
Dylai'r sefydliad y gwnaethoch gŵyn iddo fod wedi anfon llythyr atoch sy'n dweud os oes gennych chi hawl i adolygiad neu apêl. Os oes gennych chi’r hawl yma, bydd y llythyr hefyd yn esbonio pa sefydliad fydd yn delio â’ch adolygiad neu apêl.
Mae’n bwysig eich bod yn anfon eich adolygiad neu apêl at y sefydliad cywir – weithiau fe gyfeirir at hyn fel y corff adolygiad neu apêl perthnasol. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â’r sefydliad a ddeliodd gyda’ch cwyn.
Sylwer, nid oes angen i chi wybod os ydych chi'n ymgeisio am adolygiad neu apêl. Llenwch ein ffurflen adolygiad ac apêl a’i hanfon at y sefydliad y dywedwyd wrthych am gysylltu â nhw. Byddant yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperwch i sicrhau y dilynir y broses gywir.
Pa mor hir sydd gen i er mwyn ymgeisio am adolygiad neu apêl?
Mae gennych chi 28 niwrnod i ymgeisio am adolygiad neu apêl. Rhaid i'r corff adolygiad neu apêl perthnasol dderbyn eich cais o fewn 28 niwrnod o'r diwrnod wedi'r dyddiad ar y llythyr yn esbonio canlyniad eich cwyn. Er enghraifft, os yw’ch llythyr yn ddyddiedig 1 Ebrill, rhaid i chi sicrhau bod y corff adolygiad neu apêl perthnasol yn derbyn eich adolygiad neu apêl erbyn 29 Ebrill.
Cyn i chi gyflwyno adolygiad neu apêl, rydym yn argymell eich bod yn darllen yr wybodaeth yn yr adrannau cwymplen isod.
Adolygiad
Gallwch ymgeisio am adolygiad os ydych chi'n anhapus gyda’r modd y deliwyd â’ch cwyn, neu gyda’r canlyniad terfynol. Bydd y corff adolygiad perthnasol yn edrych a oedd y driniaeth neu ganlyniad eich cwyn yn rhesymol a chymesur. Golyga rhesymol a chymesur wneud beth sy'n briodol dan yr amgylchiadau, gan ystyried y ffeithiau a chyd-destun o godi'r gŵyn, o fewn fframwaith deddfwriaeth a chanllaw.
Apeliadau
Mae yna chwe math gwahanol o apêl, a esbonnir isod:
- Gallwch apelio yn erbyn ymchwiliad yr heddlu neu sefydliad arall i’ch cwyn.
- Gallwch apelio os na chofnodwyd cwyn.
- Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Ni allwch apelio yn erbyn canlyniad y datrysiad lleol.
- Gallwch apelio yn erbyn canlyniad cwyn ar ôl penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i derfynu ymchwiliad.
Mae’r adrannau isod yn esbonio pryd y gallwch apelio ac yn cynnwys dolen i’r ffurflen apelio berthnasol. Sylwer, pan fyddwn yn delio â'ch apêl, ni fyddwn yn ymchwilio i'ch cwyn gwreiddiol. Byddwn yn asesu sut deliodd yr heddlu neu sefydliad arall â'r cwyn.
Apelio yn erbyn ymchwiliad i gŵyn a wnaed i'r heddlu neu sefydliad arall
Gallwch apelio os bydd eich cwyn wedi cael ei thrin gan ddefnyddio ymchwiliad lleol neu a oruchwylir.
Gallwch apelio os:
- Na wnaethoch dderbyn digon o wybodaeth i’ch galluogi i ddeall pam y gwnaeth yr heddlu neu sefydliad arall lunio eu penderfyniad.
- Rydych yn anghytuno â chanfyddiadau ymchwiliad i’ch cwyn. Efallai y byddwch yn teimlo na chafodd y tyst priodol ei gyfweld, neu fod eich cwyn wedi ei gamddeall, neu nad oedd y sefydliad y gwnaethoch gwyno iddo wedi gwneud y penderfyniad cywir yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth.
- Eich bod yn anghytuno â’r camau y mae’r heddlu yn bwriadu eu cymryd ar ôl ymchwilio i'ch cwyn.
- Nad ydych yn meddwl bod yr heddlu wedi gwneud y penderfyniad cywir o ran a oes gan y swyddog y cyflwynwyd cwyn amdano achos i’w ateb am gamymddygiad, camymddygiad difrifol, neu fod ei berfformiad yn anfoddhaol.
- Rydych yn anghytuno gyda'r penderfyniad i beidio â chyfeirio ymddygiad y swyddog at y CPS ar gyfer penderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno cyhuddiadau troseddol.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddo a rheoli (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn ynghylch contractwr).
Apêl yn erbyn peidio â chofnodi eich cwyn
Gallwch apelio os:
- Penderfynodd yr heddlu neu gorff plismona lleol beidio â chofnodi eich cwyn. Mae cyrff plismona yn cynnwys Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain, neu Swyddfa'r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu. Mae rhai achlysuron pan nad oes angen iddyn nhw gofnodi cwyn, ond fe ddylid dweud pam wrthych. Ceir rhestr o amgylchiadau pan na fydd angen cofnodi cwynion yn ein canllaw statudol.
- Gwnaethoch gwyno i heddlu gwahanol i'r un sy'n gysylltiedig â'ch cwyn. Ni wnaeth yr heddlu a dderbyniodd eich cwyn ei basio ymlaen at yr heddlu perthnasol.
- Os bydd heddlu neu gorff plismona lleol yn methu penderfynu ynghylch cofnodi eich cwyn ac nad ydych yn clywed ganddynt cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Ni allwch apelio os bydd eich cwyn:
- Am fater cyfarwyddyd a rheolaeth a bod y corff plismona lleol wedi penderfynu peidio â’i gofnodi. Ond gallwch apelio os gwnaed y penderfyniad i beidio â chofnodi gan yr heddlu.
- Heb ei chofnodi am ei bod wedi ei thynnu yn ôl.
- Heb ei chofnodi oherwydd ei bod wedi, neu yn cael, ei thrin trwy gamau troseddol neu ddisgyblu.
Apelio yn erbyn penderfyniad i ddatgymhwyso
Efallai y byddwch yn medru apelio os ataliwyd y system gwynion cyn i ymchwiliad gael ei gynnal i'ch cwyn. Bydd y sefyllfa hon yn digwydd pan fydd yr heddlu dan sylw yn gwneud ‘penderfyniad i ddatgymhwyso’.
Gallwch apelio os ydych chi'n credu na ddylai'r heddlu fod wedi penderfynu datgymhwyso.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn ynghylch mater cyfarwyddo a rheoli (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn ynghylch contractwr) neu os rhoddodd yr IOPC ganiatâd i'r heddlu i ddatgymhwyso.
Apelio yn erbyn canlyniad y datrysiad lleol
Gallwch apelio os bydd eich cwyn wedi cael ei thrin gan ddefnyddio’r broses datrysiad lleol.
Pan wnaeth yr heddlu ysgrifennu atoch am ganlyniad eich cwyn, fe wnaethant hefyd ddweud wrthych at bwy i apelio. Mewn nifer o achosion, prif swyddog yr heddlu fydd hwn. Mewn achosion eraill, yr IOPC fydd yn gyfrifol.
Gallwch apelio os:
- Byddwch yn meddwl nad oedd canlyniad datrysiad lleol eich cwyn yn un priodol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, eich bod yn credu nad oedd y canlyniad yn addas i’r gŵyn, neu nad oedd y canlyniad yn adlewyrchu’r dystiolaeth oedd ar gael.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddo a rheoli (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn ynghylch contractwr).
Apelio yn erbyn canlyniad cwyn ar ôl penderfyniad i ddatgymhwyso
Efallai y byddwch yn medru apelio os ataliwyd y broses o ystyried eich cwyn cyn cynnal ymchwiliad. Pan fydd heddlu yn stopio delio â chwyn cyn ymchwilio iddo, gelwir hyn yn ‘benderfyniad i ddatgymhwyso’.
Gallwch apelio os:
- Nad ydych yn fodlon â’r camau a gymerwyd ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Nad ydych yn fodlon na chymerwyd unrhyw gamau ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Nad ydych yn cytuno â chanlyniad eich cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Nad ydych yn meddwl bod canlyniad eich cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso yn ddigonol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, eich bod yn credu nad oedd y canlyniad yn addas i natur y gŵyn, neu nad oedd y canlyniad yn adlewyrchu’r dystiolaeth oedd ar gael.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddo a rheoli (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn ynghylch contractwr).
Apelio yn erbyn y penderfyniad i derfynu ymchwiliad
Efallai y byddwch yn medru apelio os bydd heddlu yn penderfynu dirwyn ymchwiliad mae'n ei gynnal i'ch cwyn i ben.
Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad yma os nad ydych chi'n meddwl y dylai'r heddlu fod wedi terfynu’r ymchwiliad.
Sylwer, ni allwch apelio pan fydd eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddo a rheoli (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn ynghylch contractwr) neu os rhoddodd yr IOPC ganiatâd i'r heddlu i ddatgymhwyso.
Pan fydd yr IOPC neu'r heddlu yn derbyn eich cwyn, bydd yn gwirio os mai ef yw’r sefydliad cywir i ddelio â’ch cwyn. Os nad, bydd yn anfon eich adolygiad neu apêl at y corff adolygiad neu apêl perthnasol ac yn eich hysbysu ei fod wedi gwneud hyn.
Bydd y corff adolygiad neu apêl perthnasol yn anfon llythyr atoch i gydnabod eich adolygiad neu apêl. Byddant yn esbonio faint o amser mae’n debygol o gymryd i ystyried eich adolygiad neu apêl.
Bydd y corff adolygiad neu apêl perthnasol yn hysbysu'r sefydliad rydych wedi cwyno amdano eich bod wedi ymgeisio am adolygiad neu apêl. Byddant hefyd yn hysbysu’r unigolyn yr achwynwyd amdano ac unrhyw bersonau eraill â diddordeb.
Bydd y corff adolygiad neu apêl perthnasol yn gofyn i'r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano i ddarparu unrhyw wybodaeth ynghylch eich cwyn a sut y gwnaethant ddelio â’ch cwyn.
Pa fydd yr holl wybodaeth wedi ei darparu, bydd y corff adolygiad perthnasol yn asesu eich adolygiad neu apêl ac yn gwneud ei benderfyniad. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn. Byddwch yn derbyn esboniad clir ynghylch sut y daethpwyd i'r penderfyniad hwn
Darllenwch ein cwestiynau cyffredin.
Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am system gwynion yr heddlu:
Canllaw statudol – gwybodaeth fanwl, dechnegol am sut ddylai heddluoedd ddelio â chwynion.
Os ydych chi angen gwybodaeth mewn iaith neu fformat arall, cysylltwch â ni.