Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid

Mae Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid - yn safon diwydiant wedi'i chefnogi gan y llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni gwasanaeth, amseroldeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd  staff. Mae'n pwysleisio mewnwelediad cwsmeriaid (gwybodaeth am y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau), gan ddeall profiad y defnyddwyr a mesur bodlonrwydd gwasanaeth yn gadarn.

Cawsom ein hasesu yn erbyn 57 elfen wahanol o'r safon. Roedd yr asesiadau'n golygu tystiolaeth o sut rydym yn ateb y safon, ynghyd ag aseswyr sy'n cyfweld ein staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid.

Mae'r safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn golygu y gallwch ddisgwyl derbyn safon uchel o wasanaeth oddi wrthym, beth bynnag yw'r canlyniad neu benderfyniad. Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall eich amgylchiadau a'ch anghenion. Byddwn yn esbonio ein prosesau i chi a'r hyn y gallwch ddisgwyl oddi wrthym ar bob cam o'n gwaith - a byddwn yn eich trin â pharch a chwrteisi bob amser. Gallwch ddarllen rhagor am ein hymrwymiad i chi yn ein safonau gwasanaeth.

Ein hachrediad

Yng Ngorffennaf 2023, fe wnaethom ddychwelyd i ddechrau cylch tair blynedd Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid®, oedd yn golygu bod rhaid i ni brofi ein cydymffurfiaeth â phob un o'r 57 elfen yn fanwl.

Fe wnaethom gyflawni naw graddiad Cydymffurfiaeth Plws mewn meysydd o gryfder neilltuol (darllenwch ragor am y rhain isod), a 45 graddiad Cydymffurfiaeth ar gyfer meysydd lle rydym yn ateb y safon ofynnol. Fe wnaethom dderbyn tri graddiad Cydymffurfiaeth Rannol am elfennau lle mae angen rhagor o waith i gyrraedd y safon ofynnol yn llawn.

Yn ein hasesiad cyntaf llawn ym Mawrth 2020, fe wnaethom gyflawni dim ond tri graddiad Cydymffurfiaeth Plws, a chwe maes o Gydymffurfiaeth Rannol. Mae ein canlyniadau gwell yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella taith SAYH ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth - rydym yn falch o'n cynnydd, a byddwn yn parhau i wrando ar a gweithredu ar eich adborth.

Bydd ein hadolygiad blynyddol nesaf yn digwydd yn Haf 2024.

Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid Y daith hyd yn hyn.... 2020 Cylch cyntaf - asesiad llawn: 3 Cydymffurfiaeth Plws, 38 Cydymffurfiaeth, 6 Cydymffurfiaeth Rannol. 2021 Cylch cyntaf - adolygiad blynyddol cyntaf : 8 Cydymffurfiaeth Plws, 47 Cydymffurfiaeth, 2 Cydymffurfiaeth Rannol. 2022 Cylch cyntaf – ail adolygiad blynyddol: 10 Cydymffurfiaeth Plws, 45 Cydymffurfiaeth, 2 Cydymffurfiaeth Rannol, 2023 Ail gylch - asesiad llawn: 9 Cydymffurfiaeth Plws, 45 Cydymffurfiaeth, 3 Cydymffurfiaeth Rannol

Cyflawniadau 2023

Adroddiad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer 2023

Gallwch ddarllen ein hadroddiad diweddaraf i ddysgu am ein defnydd o Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid (CSE) fel fframwaith i gyflawni'ch blaenoriaethau sefydliadol. Adroddiad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer 2023